Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Chwefror 2023
Amser:
09.29 -
10.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13224
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Hatcher (Swyddog) Aled Elwyn Jones (Swyddog) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan John Griffiths. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Cylch Gorchwyl yr Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau, fel y’i drafftiwyd.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
3 Rheolau Diwygiedig Grwpiau Trawsbleidiol
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y rheolau diwygiedig, yn amodol ar un newid bach ac unrhyw waith tacluso ychwanegol sydd ei angen.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried adroddiad byr ar y rheolau diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4 Adborth ar y weithdrefn ddiwygiedig ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf, lle byddent yn cael adborth gan y Comisiynydd Safonau.
5 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).